Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno'r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol
CLA138 - Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’i gwnaed ar: 21 Ebrill 2012.
Fe’i gosodwyd ar: 25 Ebrill 2012.
Yn dod i rym ar: 21 Mai 2012
CLA139 - Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed ar: 26 Ebrill 2012.
Fe’u gosodwyd ar: 27 Ebrill 2012.
Yn dod i rym ar: 18 Mai 2012
CLA140 - Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Ceredigion) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’i gwnaed ar: 29 Ebrill 2012.
Fe’i gosodwyd ar: 1 Mai 2012.
Yn dod i rym ar: 4 Mehefin 2012
CLA141 - Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) a Thoddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed ar: 27 Ebrill 2012.
Fe’u gosodwyd ar: 2 Mai 2012.
Yn dod i rym ar: 23 Mai 2012
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
Dim
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad negyddol
Dim
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
Dim
Materion eraill
Ymchwiliadau’r Pwyllgor: Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan yr Athro R. Gwynedd Parry, Athro’r Gyfraith a Hanes y Gyfraith, Cyfarwyddwr Sefydliad Hywel Dda, Prifysgol Abertawe.
Penderfyniad i Gyfarfod yn Breifat
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi), penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod i drafod y dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yma ar yr ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru.
Simon Thomas AC
Cadeirydd Dros Dro y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
14 Mai 2012